SL(5)369 – Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Cefndir a Diben

Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud o dan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983 ac adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.  Maent yn gwneud diwygiadau technegol i nifer o Reoliadau sy’n gysylltiedig â chyllid myfyrwyr.  Mae’r diwygiadau’n angenrheidiol i sicrhau bod cyfeiriadau amrywiol drwy gydol y Rheoliadau diwygiedig yn parhau i weithredu’n effeithiol ar ôl ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Bydd y Rheoliadau hyn yn rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir er nad ydynt yn cael eu gwneud o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.  Mae’r weithdrefn yn negyddol yn unol â’r pwerau galluogi.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

13 Mawrth 2019